Diwrnod i ddathlu'r iaith Gymraeg arlein ac i annog mwy o bobol i gymryd rhan yn y diwylliant Cymraeg digidol

Pori pyst gan awdur

Diolch i chi i gyd

Wel, mae Diwrnod Pethau Bychain 2011 drosodd.

Diolch i bawb a gymerodd ran mewn unrhyw ffordd. Unai drwy Twitter, Facebook, Tumblr, Blog personol, fideo neu beth bynnag…

Diolch mawr i Celtes am roi Crys-T yn wobr i un person lwcus ar Facebook… Cawn wybod yr ennillydd yn fuan!

Fe fydd post yma yn fuan gyda ystadegau y digwyddiad.

Unwaith eto, diolch yn fawr i chi i gyd am gymeryd rhan, gwelwn ni chi yn 2012, Nos da!

Llun gan Celtes

Mae Celtes wedi creu’r llun yma ar gyfer y diwrnod…

Dyma ddechrau ar y diwrnod

Wel, or diwedd mae diwrnod Pethau Bychain wedi cyrraedd.

Mae 24 awr o’n blaenau ni nawr i wneud y pethau bach sy’n dathlu’r iaith Gymraeg arlein.

Mae’n gyfle arbennig i wneud rhywbeth, ac i annog mwy o bobol i gymryd rhan yn y diwylliant Cymraeg digidol.

Welwn ni chi yr ochr arall!

Pob lwc i bawb!

 

 

Paratoi ar gyfer y diwrnod mawr

Mae’r paratoadau  wedi bod yn mynd ymlaen am y diwrnod mawr ers y diwrnod ar ôl diwrnod Pethau Bychain 2010.

Heddiw, fe gafodd bandwidth y wefan ei ddyblu o 5Gb i 10Gb ar gyfer dydd Gwener.

Wrth gwrs, fe fydd post yn ymddangos gyda ystadegau’r diwrnod ar ôl y digwyddiad, felly cedwch eich llygaid yn agored. Fedrwn ni wella ar faint o bobl gymerodd ran y llynedd?

Beth da chi am wneud ar gyfer y diwrnod? Gadewch i ni wybod!

 

Tagiau ar gyfer y diwrnod

Tri diwrnod i fynd tan Diwrnod Pethau Bychain felly roeddwn yn meddwl y byddai’n syniad da i atgoffa pobl o’r tagiau sydd i’w defnyddio ar gyfer y diwrnod.

Ar Twitter defnyddiwch #pethaubychain
Ar Flickr defnyddiwch pethaubychain
Ar YouTube defnyddiwch pethaubychain
Ar flogiau defnyddiwch pethaubychain

Ydych chi’n dechrau gweld patrwm yma?
Yn syml, lle bynnag yr ydych, rhowch pethaubychain fel tag, ac fe wnawn ni ein gorau glas i’w gael wedi ei gynnwys ar y wefan.

 

PR ar gyfer Pethau Bychain

Gyda dim on 10 diwrnod i fynd tan Diwrnod Petha Bychain, rydym ni yn chwylio am rhywun i wneud PR ar ein cyfer. Angen cysylltu gyda cwmniau teledu, radio a phapurau newydd i gael y gair allan.

Fedrwch chi helpu?

Gadewch sylw yma, neu e-bostiwch post@pethaubychain.com

Diolch!

App Pethau Bychain ar gyfer Android

Y llynedd fe wnaeth Gareth ryddhau App ar gyfer yr iPhone i ddilyn digwyddiadau Pethau Bychain. Y flwyddyn yma, yn ogystal ag App ar gyfer yr iPhone mae app ar gyfer ffonau Android.

Yr Addewid 2011

“Dwi’n gwneud addewid i greu un peth bach arlein yn y Gymraeg ar Ddydd Gwener 21ain o Hyfref 2011.

Hysbysebu ar Pethau Bychain

Y flwyddyn yma, er mwyn codi ychydig o arian ar gyfer prosiectau newydd yn y Gymraeg ar-lein, mae’n bosib hysbysebu ar wefan Pethau Bychain.

Gwefan newydd ar y ffordd

Fel cafodd ei ddweud ar Twitter yn gynharach, fe fydd gwefan newydd Pethau Bychain yn mynd yn fyw yn fuan iawn.

I’r rheini ohonnoch sy’n methu aros i weld y thema newydd, mae llun teaser i’w gael isod.