Diwrnod i ddathlu'r iaith Gymraeg arlein ac i annog mwy o bobol i gymryd rhan yn y diwylliant Cymraeg digidol

Pori y categori Pethau!

Tynnwch lun gyda logo Pethau Bychain

Dyma syniad i chi, printiwch y ddogfen yma allan ar bapur a tynnwch ei lun mewn mannau diddorol. Yna, gyrrwch y llun i post@pethaubychain.com a fe wnawn eu rhoi mewn galeri :)

 

 

Llun gan Celtes

Mae Celtes wedi creu’r llun yma ar gyfer y diwrnod…

Dyma ddechrau ar y diwrnod

Wel, or diwedd mae diwrnod Pethau Bychain wedi cyrraedd.

Mae 24 awr o’n blaenau ni nawr i wneud y pethau bach sy’n dathlu’r iaith Gymraeg arlein.

Mae’n gyfle arbennig i wneud rhywbeth, ac i annog mwy o bobol i gymryd rhan yn y diwylliant Cymraeg digidol.

Welwn ni chi yr ochr arall!

Pob lwc i bawb!

 

 

Yr Addewid 2011

“Dwi’n gwneud addewid i greu un peth bach arlein yn y Gymraeg ar Ddydd Gwener 21ain o Hyfref 2011.

Cyfieithu Twitter i’r Gymraeg

Mae gwneud y pethau bychain yn bwysig i ni yma ar pethaubychain.com. Yn enwedig pan bod y pethau bychain yna yn mynd yn bethau mawr!

Mae deiseb ar gael i’w lofnodi i gyfieithu Twitter i’r Gymraeg ac mae’n hawdd iawn i’w arwyddo. Dim ond cyfrif Twitter sydd ei angen arnych chi.

Dilynwch y linc yma i wneud gwahaniaeth.

App Pethau Bychain 2011

Yn meddwl am app ar gyfer Pethau Bychain 2011 ar gyn o bryd.

Beth fyswch chi’n hoffi ei weld ynddo?

Gadewch sylw isod os gwelwch yn dda

Pryd bydd diwrnod Pethau Bychain nesaf

Fel mae Carl yn son yn gofnod ddiweddaf, da ni heb drafod yn iawn pryd fydd y diwrnod Pethau Bychain nesaf.

Fe wnes i awgrymu Medi’r 9fed, 2011 gyda’r meddylfryd y byddai’r plantos i gyd yn ôl yn yr ysgol erbyn hyna.

Ond ddarllenwyr, pryd yr hoffech chi weld y diwrnod yn digwydd?

Yn ogystal a hyna, beth fyddwch chi’n hoffi ei weld yn digwydd?

Gadewch eich syniadau yn y sylwadau! Sgwrs agored bobl!

Gwefan App Pethau Bychain

Mae’n ddipyn o amser ers i ddiwrnod Pethau Bychain gael ei gynnal bellach, ond mae’r App yn dal ar gael.
Erbyn hyn, dwi wedi cael amser i greu gwefan syml ar gyfer App Pethau Bychain.

Mae i’w weld yma.

Gwyliwch allan am updêt yn weddol fuan!

fideo: ystadegau pethau bychain

Ystadegau Pethau Bychain from Pethau Bychain on Vimeo.

Pethau Bychain (rhan 3)… Mae’n brysur ar y we

Newydd godi yma yng Nghanada a mae’n edrych fel diwrnod a hanner i’r iaith Gymraeg ar y we. Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu i ddiwrnod Pethau Bychaid hyd yma, mae mwy i ddod, ond dyma bigion o be sy’n cael ei ddweud, a’i wneud

  • Mae Chris Cope wedi atgyfodi ei flog ar gyfer Pethau Bychain
  • Arfon Jones, cynghorydd Plaid Cymru wedi sgwennu cofnod ar ei flog
  • Mae Iestyn ap Dafydd wedi gwendu mwy o waith ar fap “Do Something in Welsh”, sef map o lefydd i Siarad Cymraeg yng Nghymru ar gyfer dysgwyr SaySomethinginWelsh.
  • Mae Mary Rose Peate wedi sgwennu cerdd serchus; Gwawrgan:

Gwawrgan

Llwyd fwyn ydy golau’r wawr uwchben y polyn llenni.
Tyner a phluog, mae o’n gadael i mi weld dy wyneb
Yn cysgu yn ffyddiog.

Dyna ddiwrnod gwahanol,
Bore arall,
Pan wnaethon ni ‘n ddeffro ein gilydd.

Ond mi fyddwn ni bob bore wedyn
Yn rhannu ’r gobaith yna
A byddi di’n estyn dy freichiau.

  • Sion Glyn yn sôn am y fideo yma:
  • Mae Marged Thomas, Swyddog Maes Gweinyddol, Menter Bro Ogwr wedi creu cyflwyniad ar Prezi
  • Mae CrazyCymro wedi diweddaru ei sianel YouTube
  • Mae Adam Jones wedi creu cofnod ar ei flog ac wedi rhoi fideo ar YouTube
  • Mae Paul Richardson, cynghorydd e-ddysgu, RSC Cymru wedi sgwennu cofnod ar gyfer y diwrnod.
  • Mae Marc Thomas o lleol.net wedi creu rhestr gynhwysfawr o ddarparwyr  llety sydd yn cynnig gwasanaeth Cymraeg ar wefan lleol.net

Cadewch y gwaith da i fynd, mae’n argoeli i fod yn llwyddiant mawr. Pob lwc i chi gyd!