Diwrnod i ddathlu'r iaith Gymraeg arlein ac i annog mwy o bobol i gymryd rhan yn y diwylliant Cymraeg digidol

Pori y categori Pethau!

Pethau Bychain (rhan 2) – rhagor o bethau…

Dyma ddiweddariad bach arall i chi. Mae cymaint o bethau’n digwydd mae’n annodd cadw trac ar hyn o bryd. Cofiwch adael i ni wybod os nad ydyn ni wedi rhoi mensh i chi!

Cyfraniadau gwych!

Pethau Bychain – casgliad amser cinio

Diwrnod Pethau Bychain Hapus!

Beth ddigwyddodd bore ‘ma?

Rhai o’r pethau o gwmpas y we:

  • Cerdd Pethau Bychain gan Osian Rhys Jones – “Gwadwn y byd digidol / yn ein hiaith llawn-edrych-nôl…”
  • Rhaglen creu rhaglenni S4C gan Dafydd Tomos – “Peidiwch gofyn sut ond dwi wedi cael gafael ar raglen sy’n cael ei ddefnyddio yn fewnol gan S4C. Dwi wedi ei roi ar y we i bawb gael ei weld…”
  • Cofnod am Gaerdydd gan Lowri Haf Cooke – “Dwi newydd ddechrau recordio rhaglen ddogfen ar gyfer y radio sy’n cynrhychioli diwrnod yn y brifddinas. Cerddlun o Gaerdydd fydd y raglen hon, yn cynnig portread o’r ddinas trwy gyfrwng seiniau a lleisiau lleol.”
  • Project ychwil newydd gan Dyfrig – “Fel rhan o’r cynllun hwn, fe fydda i’n ymweld a thair ysgol uwchradd mewn ardaloedd Cymraeg, ac yn gweithio gyda grwp dethol o fechgyn. Y syniad ydi ein bod yn mynd ati i ddychmygu beth fyddai hanes superhero wedi ei fagu yn y Gymru Gymraeg – Spiderman o Gaernarfon, neu Superman o Dregaron…”
  • Stori fanfic Doctor Who gan Leia – “Neidiodd y TARDIS eto, a hedfanodd pethau o gwmpas yr ystafell. Sgrechiodd Amy…”
  • Lawnsiad llyfrau Tintin Cymraeg newydd ar fideobobdydd

Mae rhai ohonom ni wedi lansio blogiau neu wefannau newydd bore ‘ma!

  • Be di gender yn Gymraeg? – “Rydan ni’n griw o fenywod ar draws Cymru sy’n awyddus i drafod pob math o bynciau sy’n ymwneud a’n bywydau mewn cyd-destun ffeministaidd a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg.”
  • Cerddi gan Nic Dafis – “Dw i wedi dechrau blog bach ar yr ochr, sy jyst yn gasgliad (dyddiol? gawn ni weld) o gerddi dw i wedi dod ar eu traws ac yn hoffi am un rheswm neu’r llall.”
  • Gwallgofrwydd – “I ddweud y gwir, does gen i ddim clem beth yw flog?…” (chwarae teg)
  • mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi lansio gwefan newydd heddiw (rhan o’r cynllun? gobeithio)

Mae Twitter ar dan:

Gwnaf i bostio mwy o ddolenni hwyrach.

Mae Rhodri wedi sgwennu canllaw os ti eisiau cymryd rhan.

App iPhone ar gyfer Pethau Bychain

Erbyn hyn mae App i’r iPhone ar gael ar gyfer diwrnod Pethau Bychain ddydd Gwener yma.

Mae’n rhad ac am ddim ac ar gael drwy fynd i’r linc yma: http://stwnsh.com/pbapp

Be allwch chi wneud?

Mewn ychydig dros wythnos fe fydd hi’n ddiwrnod Pethau Bychain, a falle bod rhai ohonnych yn ceisio meddwl beth i’w wneud ar gyfer y diwrnod arbennig yma. Mae na nifer o bethau y gallwch wneud. Dyma restr byr:

  • Blogio yn y Gymraeg
  • Creu Blog
  • Ysgrifennu adolygiad o ffilm neu gerddoriaeth
  • Gwneud darn o gerddoriaeth
  • Gwneud fideo a’i roi ar YouTube neu Vimeo
  • Trydar yn y Gymraeg
  • Rhoi llun ar Flickr

Wrth gwrs mae mwy y gallwch wneud, dim ond syniadau yw rhain. I’ch cychwyn chi i ffwrdd, fe wnes i greu fideo cylflym ddoe o awr o fy niwrnod. Mae i’w wels isod.