Diwrnod i ddathlu'r iaith Gymraeg arlein ac i annog mwy o bobol i gymryd rhan yn y diwylliant Cymraeg digidol

Pori y categori Yn y cyfryngau

Pethau Bychain yn y dyfodol

Dyn ni newydd gweld Pethau Bychain ar blog Golwg360, sef y cofnod 10 Uchaf: Blogiau Amatur Cymraeg 2010 gan Ifan Morgan Jones. Diolch Gareth am y tip.

Dw i wedi bod yn meddwl am hwn yn ddiweddar hefyd ac wedi gadael sylw. Ond mae’r dyfodol o ddiwrnod i ddathlu’r iaith arlein yn dibynnu ar y gymuned.

Dyn ni ddim wedi trafod y dyfodol o Pethau Bychain eto.

Ddylen ni hyrwyddo rhywbeth gyda chyfryngau mawr o gwbl (a creu “disgwyliadau”) neu ffrindiau ac ein rhwydweithiau yn unig?

Ddylai fe bod yn digwyddiad o gwbl neu rhywbeth arall? Os digwyddiad, diwrnod neu wythnos?

Os ti eisiau tyfu’r presenoldeb o’r iaith Gymraeg arlein am bawb, pa fath o broject faset ti ddylunio?

Mae’r sylwadau ar agor. Paid ebostio dy syniadau, plîs sgwenna nhw isod. Diolch!

Pethau Bychain – erthygl Golwg360

Erthygl am y digwyddiad yn Golwg360 heddiw.

Dyfyniad gan Rhodri ap Dyfrig:

“Falle bod pobol ddim yn gweld yr iaith Gymraeg yn iaith gwe yn yr un ffordd, ac maen nhw’n gyfforddus â’r Gymraeg ar y radio a’r teledu.”

“Ddim jest ar gyfer geeks rhyngrwyd y mae’r cynllun yma – mae’n fyd rhy fach. Mae’r we yn fyd i bawb, ac r’yn ni eisiau ei agor i fyny…”

Mae’r cylchgrawn Golwg wedi cyhoeddi rhywbeth hefyd.

Pethau Bychain – erthygl Guardian

Erthygl am y digwyddiad yn Guardian Cardiff heddiw (Saesneg)

Pethau Bychain ar y wefan BBC Cymru

Bydd BBC yn cyhoeddi dolenni i dy Bethau Bychain ar y 3ydd mis Medi. Maen nhw wedi dweud:

Rydyn ni’n addo lincio i dudalennau sy’n ymwneud â gweithgarwch Pethau Bychain ar Fedi 3 a chyhoeddi cofnod blog am yr ymgyrch ar wefan BBC Cymru.

Diolch i BBC am eich cefnogaeth a sylw.

Dyn ni’n hapus gyda phob addewid ar y tudalen Yr Addewid wrth gwrs – diolch. Dyn ni wedi derbyn 34 hyd yn hyn.

Mae’r Addewid dal ar agor. Wyt ti’n berson creadigol yn yr iaith Gymraeg fel:

  • cerddor
  • artist
  • ysgrifennwr
  • blogwr
  • crëwr fideo
  • neu rhywbeth arall?

Proffesiynol, amatur, rhywbeth rhwng y ddau – does dim ots. Dere i ddathlu’r iaith Gymraeg arlein gyda ni ar y 3ydd mis Medi. Mwy o wybodaeth

Cwestiwn am y casgliad Pethau Bychain

Mae Nici Beech wedi gofyn cwestiwn am Bethau Bychain ar ei blog:

Tybed a fydd Pethau Bychain yn dod â phopeth at ei gilydd rhywsut er mwyn gweld casgliad o’r hyn a wnaed?

Gwnaethon ni colli cwestiwn Nici ar y tudalen Beth yw Pethau Bychain?. Felly gwnaf i drio ei ateb e…