Cwestiwn am y casgliad Pethau Bychain
Mae Nici Beech wedi gofyn cwestiwn am Bethau Bychain ar ei blog:
Tybed a fydd Pethau Bychain yn dod â phopeth at ei gilydd rhywsut er mwyn gweld casgliad o’r hyn a wnaed?
Gwnaethon ni colli cwestiwn Nici ar y tudalen Beth yw Pethau Bychain?. Felly gwnaf i drio ei ateb e…
Ydyn ni’n casglu pethau yma ar y diwrnod? Yn bendant! Dyn ni’n trio casglu popeth yma ar y flog – fel dolenni i bob cofnod, llun, fideo a darn o stwff.
Defnyddia’r tag pethaubychain (neu #pethaubychain ar Twitter) os bosib. Bydd e’n hawsa i gasglu pob peth o bethau bychain.
Er enghraifft, dyma pob fideo ar YouTube dan y tag pethaubychain. Does dim lot o ganlyniadau ar hyn o bryd wrth gwrs ond gobeithio bydd mwy yn bodoli 3ydd mis Medi.
Arwyddodd mwy o bobol Yr Addewid heno! Mae e’n agor i bawb. (Gyda llaw atebodd rhai ar y digwyddiad Facebook – 11 person heno.)
Edrych ymlaen at eich pethau.
Rhyw fath o Stwnsh sydd ei angen ia? Fel oedd Metastwnsh yn ei wneud gyda ‘Steddfod Bala a Haciaith?