Flickr: barlowgirls

Mae Pethau Bychain yn ddiwrnod i bawb gymryd rhan yn y diwylliant digidol Cymraeg, ond mae’n annodd weithiau gwybod sut i fynd ati i greu rhywbeth. Y gwir yw ei bod hi’n symlach nac erioed i roi rhywbeth ar-lein, boed hynny’n fideo, llun neu destun.

Felly dyma ganllawiau syml iawn ar rai posibliadau ar sut i greu a gosod rhywbeth ar-lein:

Blogio

Dwi’n hoff iawn o system flogio WordPress. Mae’n hyblyg, yn rhad ac am ddim, ac ar gael yn Gymraeg! Gallwch chi greu eich blog eich hun mewn 5 munud drwy fynd i WordPress.com

I chi sydd eisiau rhywbeth chydig mwy delweddol, llai ffyslyd, yna mae Tumblr yn blatfform gwych. Mae’n ei gwneud hi’n hawdd iawn ychwanegu delweddau, fideos a phytiau testun at eich gwefan.

Mae Posterous yn system flogio symlach fyth, lle gallwch chi ebostio cofnodion, a byddant yn ymddangos ar eich gwefan.

Cofiwch roi Pethau Bychain neu pethaubychain fel tagiau ar eich cofnodion fel y gallwn ni eu ffeindio nhw.

Fideo

Os oes ganddoch chi ffôn symudol, camera digidol neu we-gamera gallwch chi wneud blog fideo. Does dim angen sgiliau golygu, er ei fod yn helpu i wneud fideos chydig yn fwy diddorol (ychydig gyngor ar fideo flogio). Mae pawb yn gwybod am YouTube, ond dyma ambell le arall ar gyfer fideos:

Mae Vimeo yn safle ar gyfer clanlwytho fideos, ond yn wahanol i YouTube mae yno gymuned o gynhyrchwyr ffilm sydd yn aml eisiau rhoi sylwadau adeiladol ar eich gwaith. Mae safon sain a llun y fideos yma yn dda iawn hefyd.

Os ydych chi eisiau creu fideo sydd yn edrych yn slic a phroffesiynol yna mae Animoto yn le gwych. Gallwch chi lusgo fideo a delweddau i’r wefan a bydd yn creu fideo, fel hud, o flaen eich llygaid. Mae’r canlyniadau yn gallu bod yn syfrdanol o dda.

Os am greu animeiddiad hawdd o destun yn unig yna mae gwefan Xtranormal yn darparu llwyth o ddewis o gymeriadau a chefndiroedd i chi. Os gallwch chi deipio – gallwch chi wneud ffilm!

Neu beth am roi isdeitlau Cymraeg ar fideo Sbaeneg ar wefan DotSub.

Os nad ydach chi am wneud blog fideo, yna beth am greu fideo ‘how to’, fideo coginio, neu recordio cyfweliad efo rhywun da chi’n adnabod.

Sain / Cerddoriaeth

Os oes ganddoch chi iPhone yna mae’r app Audioboo yn anghenrheidiol ar gyfer recordio sain ar y go. Ar ôl creu cyfri, gallwch chi recordio rhywbeth, tynnu llun i fynd gyda fo, rhoi disgrifiad a bydd yn postio yn syth ar y we gyda URL unigol.

Neu os oes ganddoch chi gerddoriaeth neu recordiad sain arall ar ffurf mp3 neu ffeil tebyg, gallwch chi ei lanlwytho i SoundCloud yn rhad ac am ddim.

Mae MySpace wrth gwrs hefyd yn yn parhau i fod yn lle poblogaidd iawn ar gyfer rhoi cerddoriaeth.

Arall

Beth am sganio eich hen draethodau hir, adolygiadau neu bapurau bro a’u lanlwytho nhw i wefannau fel Flickr, neu hyd yn oed osod ffeiliau Word neu PDF ar wefan Scribd.

Oes gennych chi sleidiau PowerPoint o gyflwyniad wnaethoch chi? Rhannwch nhw a’r byd gyda SlideShare, neu byddwch yn greadigol gyda chyflwyniadau Prezi.

Felly, fel y gwelwch, dydy rhoi platfform i’ch gwaith ddim yn broblem o gwbl. A dweud y gwir mae rhai gwefannau yn gwneud peth o’r gwaith creadigol drostoch chi!

Oes yna unrhyw blatfformau dwi wedi eu gadael allan? Gadwch sylw a wnai ychwanegu nhw at y gofnod.