Pethau Bychain yn y dyfodol
Dyn ni newydd gweld Pethau Bychain ar blog Golwg360, sef y cofnod 10 Uchaf: Blogiau Amatur Cymraeg 2010 gan Ifan Morgan Jones. Diolch Gareth am y tip.
Dw i wedi bod yn meddwl am hwn yn ddiweddar hefyd ac wedi gadael sylw. Ond mae’r dyfodol o ddiwrnod i ddathlu’r iaith arlein yn dibynnu ar y gymuned.
Dyn ni ddim wedi trafod y dyfodol o Pethau Bychain eto.
Ddylen ni hyrwyddo rhywbeth gyda chyfryngau mawr o gwbl (a creu “disgwyliadau”) neu ffrindiau ac ein rhwydweithiau yn unig?
Ddylai fe bod yn digwyddiad o gwbl neu rhywbeth arall? Os digwyddiad, diwrnod neu wythnos?
Os ti eisiau tyfu’r presenoldeb o’r iaith Gymraeg arlein am bawb, pa fath o broject faset ti ddylunio?
Mae’r sylwadau ar agor. Paid ebostio dy syniadau, plîs sgwenna nhw isod. Diolch!
Dwi’n eithaf hoff o ddiwrnod Pethau Bychain. Mae’n rhoi ffocws i bobl dydi.
Ie, credu hefyd y byddai diwrnod yn rhoi mwy o ffocws i’r digwyddiad, ond efallai ein bod yn ceisio ennyn cefnogaeth gan sefydliadau addysgiadol, neu jyst rhywfaint o efengylu ar ein rhan!
Dwi ddim yn credu byddai dim disgwyliadau yn dod o gyfryngau “mawr”, gan mae creu ymwybyddiaeth ydi prif ddiben y diwrnod, casglu pethau at eu gilydd, yr uinigolyn sy’n creu wastad.
Mwydro rwan mae’n ddrwg gen i, ond dwi’n edrych mlaen yn eiddgar at ddigwyddiad arall, ac i roi’r gair allan ar y stryd!
Hwyl,
Sioned
Os gwneud un arall yna da o beth fyddai cael ysgolion/prifysgolion/colegau AB yn rhan ohono fel ma Sioned yn deud. Ma ganddyn nhw’r gallu i gyrraedd at bobol sydd ddim efallai’n gweld enghreifftiau o sdwff Cymraeg ar-lein yn aml iawn. Nhw sydd hefyd am fod efo amser sbâr i wneud sdwff. Ar y llaw arall, pwy sydd am fod isio gwneud cynnwys ar-lein Cymraeg os mae’n rhan o aseiniad? Turnoff. Ma’n falans annodd. Ella na pobol fel Galeri, Arad Goch, yr Urdd sydd yn gweithio efo pobol ifanc i wneud pethau creadigol yn barod sydd angen cael yn ‘bartneriaid’?
Er mwyn gwneud hynny, byddai angen cynllunio dipyn o flaen llaw, a chael gwefan sydd yn rhoi adnoddau gwell i bobol ar beth i wneud a sut i’w wneud o. Ma hwnna’n swnio fel job llawn amser i rywun cofiwch! Ma gweithdai go iawn hefyd yn help o ran cael dangos i bobol sut ma gwneud rwbath. Ma hynny eto yn intensif iawn. Oedd Cymdeithas yr Iaith yn arfer cynnal Ysgol Basg i bobol ifanc ddod at ei gilydd i ddysgu am ymgyrchu a phob math o bethau. Dwi’n credu bod hwnna’n syniad eitha diddorol. Ella sa’n rwbath sa’r Urdd yn gallu gwneud. Eto mae hyn i gyd yn uchelgeisiol a falle tu hwnt i’r sgôp o be allwn ni gyfrannu fel unigolion prysur. Bosib taw jest trio cadw fo’n syml fydda’r ateb gorau a gweld os di’r sylw llynedd yn cael dylanwad ar eleni.
O ran cyrhaeddiad, dwi’n meddwl y gwnaeth y diwrnod gyrraedd bron iawn pob cyfrwng poblogaidd yng Nghymru mewn ffordd eitha llwyddiannus. Efallai na throswyd y sylw hynny mewn i weithredoedd, ond dwi’n falch iawn o’r darnau bach ddaeth drwodd. Does dim drwg byth mewn anfon datganiad i’r wasg allan a gweld os wnaiff pobol ei argraffu. Popeth fel’na’n helpu i ddod â thraffig drwodd os dim byd arall (neu ydi o?).
Mi gymrodd y diwrnod ystyr cwbl wahanol i lot o bobol hefyd. Doedd diwrnod Pethau Bychain ddim jest am wneud rhywbeth ar-lein yn y Gymraeg. I rai pobol roedd o’n gyfle i fynegi eu defnydd o’r Gymraeg mewn unrhyw ffordd. I fi mae hynny’n dangos angen gan bobol am ddiwrnod sydd efo ystyr ehangach ac sydd ddim yn ddydd Gwyl Dewi. Y cwestiwn felly ydi, wyt ti isio agor sgôp y peth allan ymhellach?
Fy marn bersonol i ydi bod honno ddim yn job i griw PB ond i wleidyddion ac ati sydd efo’r gallu ac arian i wthio rwbath felna mlaen. Diwrnod Dathlu’r Gymraeg gan Fudiadau Dathlu’r Gymraeg ella? Gallith PB fod yn rhywbeth ar-lein yn unig wedyn efallai.
Dwi’n cytuno bod un diwrnod yn addas. Mae’n well ei gadw’n arbennig.
Beth am agor trafodaeth ar Maes-e neu debyg, lle byddai pobl yn gallu cynnig syniadau, Ac wedyn agor y goreuon fel llinynnau trafod i ddatblygu’r syniadau hynny?
roedd yn syniad wych. Yn sydyn – beth am ei gynnal eto ond efallai ychydig yn hwyrach yn y flwyddyn – mis Hydref – ysgolion nol yn iawn, colegau wedi dechrau. ‘Tawn i ddim digwydd heb bod i ffwrdd yr haf yma ym mis Awst, yna, efallai na faswn i wedi meddwl am y peth yn iawn. Mae angen bach mwy o amser i bobl siarad ymysg ei gilydd – ar ebost, swyddfa, dosbarth, gweithle. Roedd wythnos cyntaf mis Medi’n rhy gynnar.
Diolch am y sylwadau!
@Marc Postiais i’r cofnod yma am drafodaeth agored! Croeso i ti postio’r ddolen unrhyw le os ti eisiau. Diolch
Cytuno’n llwyr gyda’r ‘diwrnod’ arbennig fel rhywbeth fydd yn cryfhau asgwrn cefn y Gymraeg yng Nghymru ac yn ei gwneud yn fwy glywadwy/weladwy. Mae beth wyf i’n ceisio’i wneud ychydig ar odre pethau: lledu presenoldeb y Gymraeg mewn gwledydd eraill, ac ysgrifennu yn Gymraeg am y gwledydd hynny: Asturias, gwledydd eraill y penrhyn Iberaidd, a gwledydd a fu’n rhan o ymerodraeth Sbaen.
Gobeithio y bydd pethaubychain yn hwb i gynyddu’r nifer o flogs Cymraeg, eu gwella nhw (rwy’n siwr mod i’n sgrifennu’n well nawr nag ar y cychwyn) ac ehangu’r maes trafod.
Fel dwi wedi sôn eisoes mae yna ymgyrch ar Facebook i hybu defnydd y Wyddeleg, sydd yn cael ei gynnal fory lle mae dros ddeugain mil o bobl wedi ymrwymo i ddefnyddio’r iaith ar facebook y diwrnod hwnnw. Oni fyddai hynny’n rhywbeth y gallwn ystyried hefyd? Dyma ddole at y ddigwyddiad
http://www.facebook.com/home.php?#!/event.php?eid=134137063296469&index=1