Pryd bydd diwrnod Pethau Bychain nesaf
Fel mae Carl yn son yn gofnod ddiweddaf, da ni heb drafod yn iawn pryd fydd y diwrnod Pethau Bychain nesaf.
Fe wnes i awgrymu Medi’r 9fed, 2011 gyda’r meddylfryd y byddai’r plantos i gyd yn ôl yn yr ysgol erbyn hyna.
Ond ddarllenwyr, pryd yr hoffech chi weld y diwrnod yn digwydd?
Yn ogystal a hyna, beth fyddwch chi’n hoffi ei weld yn digwydd?
Gadewch eich syniadau yn y sylwadau! Sgwrs agored bobl!
Beth sydd wedi dod i’r olwg i fi yw hwn
http://www.facebook.com/home.php?#!/event.php?eid=134137063296469&index=1
Mae ymgyrch bach yn debyg wedi digwydd dros y Wyddeleg i’w ddefnyddio ar Facebook.
Mae oddeutu 40 000 + o bobl wedi caniatáu i ddefnyddio’r iaith ar Facebook ar y diwrnod hwnnw. Onid yw’n wych bod siwt gymaint o bobl wedi cytuno? Dwi’n credu dylwn ni anelu at wneud yr un fath!