Diwrnod i ddathlu'r iaith Gymraeg arlein ac i annog mwy o bobol i gymryd rhan yn y diwylliant Cymraeg digidol

Pori y tag Pethau Bychain

Tynnwch lun gyda logo Pethau Bychain

Dyma syniad i chi, printiwch y ddogfen yma allan ar bapur a tynnwch ei lun mewn mannau diddorol. Yna, gyrrwch y llun i post@pethaubychain.com a fe wnawn eu rhoi mewn galeri :)

 

 

Dyma ddechrau ar y diwrnod

Wel, or diwedd mae diwrnod Pethau Bychain wedi cyrraedd.

Mae 24 awr o’n blaenau ni nawr i wneud y pethau bach sy’n dathlu’r iaith Gymraeg arlein.

Mae’n gyfle arbennig i wneud rhywbeth, ac i annog mwy o bobol i gymryd rhan yn y diwylliant Cymraeg digidol.

Welwn ni chi yr ochr arall!

Pob lwc i bawb!

 

 

Paratoi ar gyfer y diwrnod mawr

Mae’r paratoadau  wedi bod yn mynd ymlaen am y diwrnod mawr ers y diwrnod ar ôl diwrnod Pethau Bychain 2010.

Heddiw, fe gafodd bandwidth y wefan ei ddyblu o 5Gb i 10Gb ar gyfer dydd Gwener.

Wrth gwrs, fe fydd post yn ymddangos gyda ystadegau’r diwrnod ar ôl y digwyddiad, felly cedwch eich llygaid yn agored. Fedrwn ni wella ar faint o bobl gymerodd ran y llynedd?

Beth da chi am wneud ar gyfer y diwrnod? Gadewch i ni wybod!

 

Tagiau ar gyfer y diwrnod

Tri diwrnod i fynd tan Diwrnod Pethau Bychain felly roeddwn yn meddwl y byddai’n syniad da i atgoffa pobl o’r tagiau sydd i’w defnyddio ar gyfer y diwrnod.

Ar Twitter defnyddiwch #pethaubychain
Ar Flickr defnyddiwch pethaubychain
Ar YouTube defnyddiwch pethaubychain
Ar flogiau defnyddiwch pethaubychain

Ydych chi’n dechrau gweld patrwm yma?
Yn syml, lle bynnag yr ydych, rhowch pethaubychain fel tag, ac fe wnawn ni ein gorau glas i’w gael wedi ei gynnwys ar y wefan.

 

5 diwrnod i fynd

Dim ond 5 diwrnod sydd yna tan diwrnod Pethau Bychain 2011.

Mae amryw o gwmniau teledu wedi cysylltu eisiau gwneud cyfweliadau ynglyn ar diwrnod yn barod, ond yn anffodus dwi’n rhy bell i ffwrdd i’w gwneud nhw.

Oes unrhyw un eisiau bod yn llefarydd ar ran Pethau Bychain?

cysylltwch drwy e-bost.

Cofiwch hefyd adael eich addewid am y flwyddyn yma!

PR ar gyfer Pethau Bychain

Gyda dim on 10 diwrnod i fynd tan Diwrnod Petha Bychain, rydym ni yn chwylio am rhywun i wneud PR ar ein cyfer. Angen cysylltu gyda cwmniau teledu, radio a phapurau newydd i gael y gair allan.

Fedrwch chi helpu?

Gadewch sylw yma, neu e-bostiwch post@pethaubychain.com

Diolch!

App Pethau Bychain ar gyfer Android

Y llynedd fe wnaeth Gareth ryddhau App ar gyfer yr iPhone i ddilyn digwyddiadau Pethau Bychain. Y flwyddyn yma, yn ogystal ag App ar gyfer yr iPhone mae app ar gyfer ffonau Android.

Yr Addewid 2011

“Dwi’n gwneud addewid i greu un peth bach arlein yn y Gymraeg ar Ddydd Gwener 21ain o Hyfref 2011.

Hysbysebu ar Pethau Bychain

Y flwyddyn yma, er mwyn codi ychydig o arian ar gyfer prosiectau newydd yn y Gymraeg ar-lein, mae’n bosib hysbysebu ar wefan Pethau Bychain.

Diwrnod Pethau Bychain 2011

Mae’r dyddiad ar gyfer diwrnod Pethau Bychain 2011 wedi ei gadarnhau fel y 21ain o Hydref.

Cofiwch wneud y pethau bychain ar-lein ar y diwrnod