Diwrnod i ddathlu'r iaith Gymraeg arlein ac i annog mwy o bobol i gymryd rhan yn y diwylliant Cymraeg digidol

Pori y tag Pethaubychain

Dyma ddechrau ar y diwrnod

Wel, or diwedd mae diwrnod Pethau Bychain wedi cyrraedd.

Mae 24 awr o’n blaenau ni nawr i wneud y pethau bach sy’n dathlu’r iaith Gymraeg arlein.

Mae’n gyfle arbennig i wneud rhywbeth, ac i annog mwy o bobol i gymryd rhan yn y diwylliant Cymraeg digidol.

Welwn ni chi yr ochr arall!

Pob lwc i bawb!

 

 

Paratoi ar gyfer y diwrnod mawr

Mae’r paratoadau  wedi bod yn mynd ymlaen am y diwrnod mawr ers y diwrnod ar ôl diwrnod Pethau Bychain 2010.

Heddiw, fe gafodd bandwidth y wefan ei ddyblu o 5Gb i 10Gb ar gyfer dydd Gwener.

Wrth gwrs, fe fydd post yn ymddangos gyda ystadegau’r diwrnod ar ôl y digwyddiad, felly cedwch eich llygaid yn agored. Fedrwn ni wella ar faint o bobl gymerodd ran y llynedd?

Beth da chi am wneud ar gyfer y diwrnod? Gadewch i ni wybod!

 

Tagiau ar gyfer y diwrnod

Tri diwrnod i fynd tan Diwrnod Pethau Bychain felly roeddwn yn meddwl y byddai’n syniad da i atgoffa pobl o’r tagiau sydd i’w defnyddio ar gyfer y diwrnod.

Ar Twitter defnyddiwch #pethaubychain
Ar Flickr defnyddiwch pethaubychain
Ar YouTube defnyddiwch pethaubychain
Ar flogiau defnyddiwch pethaubychain

Ydych chi’n dechrau gweld patrwm yma?
Yn syml, lle bynnag yr ydych, rhowch pethaubychain fel tag, ac fe wnawn ni ein gorau glas i’w gael wedi ei gynnwys ar y wefan.

 

Yr Addewid 2011

“Dwi’n gwneud addewid i greu un peth bach arlein yn y Gymraeg ar Ddydd Gwener 21ain o Hyfref 2011.

Hysbysebu ar Pethau Bychain

Y flwyddyn yma, er mwyn codi ychydig o arian ar gyfer prosiectau newydd yn y Gymraeg ar-lein, mae’n bosib hysbysebu ar wefan Pethau Bychain.

Diwrnod Pethau Bychain 2011

Mae’r dyddiad ar gyfer diwrnod Pethau Bychain 2011 wedi ei gadarnhau fel y 21ain o Hydref.

Cofiwch wneud y pethau bychain ar-lein ar y diwrnod

Gwefan newydd ar y ffordd

Fel cafodd ei ddweud ar Twitter yn gynharach, fe fydd gwefan newydd Pethau Bychain yn mynd yn fyw yn fuan iawn.

I’r rheini ohonnoch sy’n methu aros i weld y thema newydd, mae llun teaser i’w gael isod.

Pryd bydd diwrnod Pethau Bychain nesaf

Fel mae Carl yn son yn gofnod ddiweddaf, da ni heb drafod yn iawn pryd fydd y diwrnod Pethau Bychain nesaf.

Fe wnes i awgrymu Medi’r 9fed, 2011 gyda’r meddylfryd y byddai’r plantos i gyd yn ôl yn yr ysgol erbyn hyna.

Ond ddarllenwyr, pryd yr hoffech chi weld y diwrnod yn digwydd?

Yn ogystal a hyna, beth fyddwch chi’n hoffi ei weld yn digwydd?

Gadewch eich syniadau yn y sylwadau! Sgwrs agored bobl!

10 Uchaf: Blogiau Amatur Cymraeg 2010

Mae Blog Pethau Bychain wedi ei gwneud hi i fewn i ddeg uchaf blogiau Amatur Cymraeg Golwg360 2010.

Tipyn o gamp a dweud y gwir gan mae digwyddiad un diwrnod oedd Pethau Bychain.

Dyma mae nhw’n ddweud ar Golwg360

Rhif 10: Pethau Bychain

Yn dechnegol dim ond un diwrnod allan o’r 365 oedd y blog yma o ryw lawer o ddefnydd, sef 3 Medi. Ond yn yr un diwrnod hwnnw fe achosodd mwy o gyffro nag y mae’r rhan fwyaf o flogiau yn ei greu mewn blwyddyn.

Nod y blog oedd annog pobol i greu un peth bach ar-lein yn y Gymraeg – boed hynny ar ffurf fideo, blog, podlediad neu e-gerdd.

Fe wnaeth trigolion y rhithfro ymrwymo i wneud hynny, yn eu cannoedd, a’r canlyniad oedd un o’r dyddiau prysuraf yn hanes y we Gymraeg erioed, mae’n siŵr.

Er bod ambell i hen Scrooge wedi pigo beiau, does dim gwadu bod y diwrnod hwnnw’n llwyddiant, (er nad oedd yna effaith amlwg ar iechyd y rhithfro y diwrnod wedyn – Mr Scrooge).

Anelu am rhif uwch y flwyddyn nesaf bois!

fideo: ystadegau pethau bychain

Ystadegau Pethau Bychain from Pethau Bychain on Vimeo.