Diwrnod i ddathlu'r iaith Gymraeg arlein ac i annog mwy o bobol i gymryd rhan yn y diwylliant Cymraeg digidol

Pori y tag Pethaubychain

Diwrnod Pethau Bychain

O’r diwedd mae Medi y 3ydd wedi cyrraedd a fe gawn ddathlu diwrnod Pethau Bychain.

Mae lot o waith wedi mynd ymlaen tu ôl y lleni, nid yn unig ar greu y wefan ac App ar gyfer Pethau Bychain, ond mewn datblygu ymwybyddiaeth o’r digwyddiad. (Mae’r app yn hel y wybodaeth oddi ar y wefan, lluniau a tweets i gyd mewn un lle.) Mae gan dîm Pethau Bychain lot i fod yn falch ohonno.

Drwy’r dydd heddiw, fe fydd cofnodion yn ymddangos yma ar y wefan o be da chi wedi eu gwneud. Mae heddiw i gyd amdannoch chi a be da chi yn ei wneud. Fel sydd wedi cael ei ddweud droeon, dim rhaid i chi fod yn geek na nerd i gymeryd rhan. Just gwnewch rhiwbeth, unrhywbeth, yn y Gymraeg a’i roi ar y we.

Cofiwch ei dagio gyda pethaubychain neu #pethaubychain a fe wnawn ni ein gorau i’w ddarganfod a’i roi yma. Gwell fyth bysa danfon ebost i pb@pethaubychain.com gyda linc i’ch cynnwys a fe wnawn yn siwr ei fod yn ymddangos.

Un o’r Pethau Bychain cyntaf i ddigwydd heddiw oedd ail lawnsiad blog Rhys Llwyd. Mae Rhys wedi bod yn brysur iawn yn ail greu ei flog ac mae’r disgwyl drosodd. Da iawn ti Rhys, mae’n edrych yn dda iawn!

Mae Rhodri hefyd wedi creu AudioBoo ar gyfer y diwrnod:

Felly, pob lwc i chi gyd gyda’r dydd… welwn ni ch ar yr ochr arall…

Be allwch chi wneud?

Mewn ychydig dros wythnos fe fydd hi’n ddiwrnod Pethau Bychain, a falle bod rhai ohonnych yn ceisio meddwl beth i’w wneud ar gyfer y diwrnod arbennig yma. Mae na nifer o bethau y gallwch wneud. Dyma restr byr:

  • Blogio yn y Gymraeg
  • Creu Blog
  • Ysgrifennu adolygiad o ffilm neu gerddoriaeth
  • Gwneud darn o gerddoriaeth
  • Gwneud fideo a’i roi ar YouTube neu Vimeo
  • Trydar yn y Gymraeg
  • Rhoi llun ar Flickr

Wrth gwrs mae mwy y gallwch wneud, dim ond syniadau yw rhain. I’ch cychwyn chi i ffwrdd, fe wnes i greu fideo cylflym ddoe o awr o fy niwrnod. Mae i’w wels isod.

Sut y daeth Pethau Bychain i fodoli?

Cafodd y syniad ei ddechrau ym mis Mawrth eleni tra roedd criw o Gymry Cymraeg yn meddwl beth i’w ‘sgwennu ar gyfer Diwrnod Ada Lovelace. Dwi’n meddwl na’r syniad oedd i gael rhywbeth tebyg ar gyfer datblygu’r iaith Gymraeg ar y we.

Mae’r syniad wedi tyfu wrth gwrs i gynnwys unrhyw beth. Ac yndi Nici, mae rhoi rhiwbeth ar Facebook yn cyfri. Pam ddim de, mae’n rhywbeth bach!

Misoedd wedyn, a dyma ni yn barod ar gyfer diwrnod Pethau Bychain, sef y 3ydd o Fedi 2010. Y peth ydi, wyt ti’n barod?

Rho dy addewid yma.

Cwestiwn am y casgliad Pethau Bychain

Mae Nici Beech wedi gofyn cwestiwn am Bethau Bychain ar ei blog:

Tybed a fydd Pethau Bychain yn dod â phopeth at ei gilydd rhywsut er mwyn gweld casgliad o’r hyn a wnaed?

Gwnaethon ni colli cwestiwn Nici ar y tudalen Beth yw Pethau Bychain?. Felly gwnaf i drio ei ateb e…

Diolch am dy lofnod ar yr Addewid Pethau Bychain

Mae 10 person wedi arwyddo’r Addewid Pethau Bychain (ar hyn o bryd).

Mae pob person wedi addo i roi rhywbeth Cymraeg ar y we ar y 3ydd mis Medi 2010, e.e. cofnod blog, llun, fideo, cerddoriaeth… Diolch o galon!

Does dim rhaid i ti arwyddo’r Addewid i gymryd rhan. Ond pam lai?

(Gyda llaw, beth yw Pethau Bychain?)

Croeso i bawb

Beth yw Pethau Bychain? Pryd? Pam ydyn ni’n wneud Pethau Bychain? Pa fath o bobol sy’n wneud pethau ar y diwrnod Pethau Bychain? Pob cwestiwn, pob ateb yma!

Mae sylwadau yn agor isod – os oes gen ti cwestiynau eraill.

Paid anghofio’r Addewid.