Yr Addewid 2011
“Dwi’n gwneud addewid i greu un peth bach arlein yn y Gymraeg ar Ddydd Gwener 21ain o Hyfref 2011.
Gall y peth bach fod yn greu:
- cofnod blog
- fideo
- darn o gerddoriaeth
- podlediad
- tudalen ar Wicipedia
- ffansin cerddoriaeth
- nonsens Photoshop
- comic gwe
- remix
- stwnsh fideo
- erthgyl academaidd
- blog newyddion lleol
- rhoi eich papur bro arlein
- adolygiad ffilm
- trosleisio/isdeitlo ffilm
- sgetsh gomedi
- drama Twitter
- e-farddoniaeth
- defnydd creadigol o fapiau Google
- creu tudalen we o gwmpas eich hobi / cymdeithas
- neu rhywbeth arall…
Yr unig beth rydyn ni’n gofyn ydi ei fod yn Gymraeg a’i fod am rywbeth sy’n cyffroi neu gorddi chi.”
“Bwriad y prosiect ydi cael mwy o bobol i greu stwff difyr ar-lein a chynyddu’r gymuned Gymraeg ar y we. Drwy wneud un peth bach gallwch chi gyfrannu tuag at wneud y Gymraeg yn iaith fyw ar y we. Byddwch hefyd yn cael cynulleidfa fwy i’ch gwaith gan y bydd popeth yn cael ei dangos ar pethaubychain.com.”
Dwi’n gaddo gwneud rhywbeth bach yn y Gymraeg ar y 21ain o Hydref.
Dw i’n mynd i wneud “gwers blas” Cymraeg ac yn wneud “QR Codes i rhoi ar pethau o gwmpas y lle gyda’r geiriau Cymraeg.
Gaddo ymweld â 5 blog Cymraeg a gadael sylwadau perthnasol
Dwi’n addweid gwneud rhywbeth yn y Gymraeg.