Yr Addewid
“Dwi’n gwneud addewid i greu un peth bach arlein yn y Gymraeg ar Ddiwrnod Pethau Bychain.
Gall y peth bach fod yn greu:
- cofnod blog
- fideo
- darn o gerddoriaeth
- podlediad
- tudalen ar Wicipedia
- ffansin cerddoriaeth
- nonsens Photoshop
- comic gwe
- remix
- stwnsh fideo
- erthgyl academaidd
- blog newyddion lleol
- rhoi eich papur bro arlein
- adolygiad ffilm
- trosleisio/isdeitlo ffilm
- sgetsh gomedi
- drama Twitter
- e-farddoniaeth
- defnydd creadigol o fapiau Google
- creu tudalen we o gwmpas eich hobi / cymdeithas
- neu rhywbeth arall…
Yr unig beth rydyn ni’n gofyn ydi ei fod yn Gymraeg a’i fod am rywbeth sy’n cyffroi neu gorddi chi.”
“Bwriad y prosiect ydi cael mwy o bobol yn creu stwff difyr ar-lein a chynyddu’r gymuned Gymraeg ar y we. Drwy wneud un peth bach gallwch chi gyfrannu tuag at wneud y Gymraeg yn iaith fyw ar y we. Byddwch hefyd yn cael cynulleidfa fwy i’ch gwaith gan y bydd popeth yn cael ei dangos ar pethaubychain.com.”
Gwelwch yr addewid diweddaraf yma.
Dw i’n addo. Rhywbeth neis gobethio.
Dwi’n addo gwneud rhiwbeth bach ar Fedi’r 3ydd.
Dwi’n addo y bydd bonanza ar tuchwith.com
Dwi’n addo gorfodi o leia tair ffrind agos i gyfrannu ar-lein ar Fedi’r 3ydd, a phostio blog fideo yn y Gymraeg yn ogystal!
Dwi’n addo gwneud rhywbeth bach ar 3 Medi hefyd!
Dwi’n addo cynhyrchu fideo neu ddwy a mwy ar gyfer y 3ydd o Fedi.
Mae Stwnsh Cyf. yn addo gwneud rhiwbeth hefyd. http://stwnsh.com
Syniad da. Wna i rywbeth.
Rwy’n addo gwneud rhywbeth. Atgyfodi traedmawr.blogspot.com efallai.
Amdani. Ymgyrch cwl!
Iawn. Rwy’n ychwanegu at y mlog asturiasyngymraeg.blogspot.com bob dydd ta beth – bydd rhaid imi wneud rhywbeth heblaw hynny.
Dwi’n addo i roi rhywbeth yn Gymraeg ar y we ar Fedi 3ydd. Ella fydd o’n rywbeth blasus iawn…
Dw i’n addo sgwennu pennod blog newydd ar fy mlog ‘Llais y Dderwent’.
Dw i’n addo sgwennau cofnod blog ac erthygl i’r Wicipedia.
Dwi’n addo blogio, twîtio a hefyd llwythio llun neu ddau (gobeithio) yn Gymraeg ar y dydd.
Dyma oes yr addewid ynde?
Fyddai’n flogio ac dim ond yn defnyddio Cymraeg ar Twitter ar y 3ydd o Fedi.
fe wna i rywbeth bownd o fod….sai’n sicr beth eto,
pethau bychain siwr o fod!
Fydda i a llawer o’m cydnabod yn gwneud y pethau bychain ar 3 Medi allan yn Podgorica, Montenegro – sef cefnogi tim peldroed Cymru! Fydd gennon ni ddim amser i fynd ar y we felly, a hyd y gwn i does neb ohonom yn trydar.
Syniad da! Dwi isho creu tudalen gwefan (fel ‘cover page’ yn unig ar hyn o bryd i gwmni gemwaith ‘bOtwm’ sgen i a tair o fy ffrindiau) ond ddim efo clem sud i fynd o’i chwmpas – all unrhyw un awgrymu meddalwedd, neu gyfeiriad gwefan arall all fy helpu plis? nai lawnsio fo ar Fedi y 3ydd wedyn:) diolch x
gaddo facebookio a thwitro yn Gymraeg ar Fedi’r 3ydd ac am byth bythoedd!
Dw i’n addo gwneud rhywbeth ar Fedi’r 3ydd. Ddim cweit yn siŵr beth eto!
Dw i yn addo helaethu o leiaf un tudalen o Wicipedia. Hefyd ysgrifennu at reolwyr lleol Asda a Tesco yn gofyn pam nad ydynt yn defnyddio sciliau eu staff Cymraeg trwy eu cael i wisgo bathodyn ‘Rwyn siarad Cymraeg’.
Syniad da de. Shwr o gyfrannu rwsud
Dwi’n addo gwneud rhywbeth hyfryd ar http://www.anwenroberts.co.uk!
Dwi’n gaddo gwneud adolygiad o’r MiFi ar y 3ydd
Na i rywbeth, ond sai’n siwr beth eto…
Ar WikIdioms – http://www.wikidioms.com/
Byddaf wedi cyfieithu a chynnig dros 500 o idiomau i’r Gymraeg i’r wefan hon sydd yn ffynhonell addysgiadol bwysig. Rwyf bron ar 400 erbyn hyn, felly fe wnaf gyrraedd dros y 500 ar y 3ydd.
Bydda i’n dechrau blog bach newydd. Mae wastad lle i flog bach newydd ‘to, ond oes?
Rydyn ni’n addo lincio i dudalennau sy’n ymwneud â gweithgarwch Pethau Bychain ar Fedi 3 a chyhoeddi cofnod blog am yr ymgyrch ar wefan BBC Cymru.
Byddaf, yn siwr.
Dwi’n addo gwneud rhywbeth bach ar y 3ydd o Fedi!
Dw i’n mynd i sgwennu rhybeth ar fy mlog i a dw i meddwl am wneud rhywbeth gyda’r blog y gwaith hefyd. Dw i’n dysgu ICT i bobl di-waith… Efallai dw i’n gallu lincio i wefan am dysgu Cymraeg.
Mae Ifan Roberts (Pentyrch) wedi cyfieithu dogfen ar fy nghyfer a fydd yn ymddangos ar wefan yr “European Federation of Associations of Industrial and Technical Heritage” ar y 3ydd o Fedi. (Gweler http://www.e-faith.org/EITHY/ )
Mae’r ddogfen yn hybu ymgyrch dros gael “Blwyddyn Dreftadaeth Ddiwydiannol a Thechnegol Ewropeaidd”.
Mae Ysgrifenyddiaeth yr Ymgyrch yn Fflandrys, Gwlad Belg.
Mae gwahoddiad i gyfieithu’r ddogfen i unrhyw iaith.
Dwi’n addo, cris croes tan poeth, creu rhywbeth amrwd/rhywbeth coeth
Dw i’n addo sgwennu rhywbeth ar fy livejournal.
Edrych ymlaen i’r 3ydd. Dwi’n gaddo ail-agor fy mlog.
Dwi ddim yn gallu addo dim gan fy mod i yn Montenegro ar 3ydd Meddi sori
Ond dwi yn addo parhau i drydar yn y Gymraeg!
Dwi o hyd yn defnyddio Facebook yn Gymraeg a phostio yn Gymraeg yr un peth am rhan fwyaf o weithgareddau ar y we, ond wnai sicrhau nad wy’n defnyddio’r un gair Saesneg ar Facebook a thrydar ar y 3ydd. Ond dylwn ni gyd fod yn trydar a Facebookio yn y Gymraeg pa bynnag ddyddiad!
Dwi am ailddechrau f’mlog. Dwi’n addo cychwyn blogio ‘to.
Mae’r Wladfa Newydd yn addo rhoi linc o’r tudalen blaen i Pethau Bychain ar y 3ydd o Fedi.
Dwi am ychwanegu swn mwd yn sychu ar adeg troi llanw’r Fenai ger y “sowethoffrans” i soundsnap.com
Mwd Cymreig fydd o, a fydd y “clustnod” yn y Gymraeg
Mae gen i sawl adolygiad CD Cymraeg ‘sgrifennais ar gyfer amryw cyfryngau gan gynnwys Radio Cymru. Byddaf yn anfon rhein ar y 3ydd Medi. Beth am ychydig o hanes leol? Ydy hynny yn dderbyniol neu yn rhy ddiflas i’r gynulleidfa ‘rydych am eu denu? Gareth
Dwi’n addo bydd fideo bychan newydd gan Cymdeithas y Rhyfeddod i’w weld ar http://www.rhyfeddod.com
O ‘r Gaiman, Patagonia, rwy’n addo sgwennu popeth yn Gymraeg ar facebook, ac wrth gwrs siarad gyda phawb sy’n siarad Cymraeg yma , dim ond yn Gymraeg! Bydd ymarfer ar gyfer Eisteddfod y Bobl Ifanc yn Ysgol yr Hendre hefyd, a bydd o leiaf 50 o blant yn siarad, canu a dawnsio yn Gymraeg!
Wedi mis Awst o wyliau, dwi’n addo y bydd na lith arall ar fy mlog ar y trydydd
Diolch am hyn – mae wedi fy ysgogi i roi bach yn fwy o waith mewn ar fap o lefydd i ddefnyddio’r Gymraeg yng Nghymru. Cyrrhaedda’i 99 o lefydd erbyn dydd Gwener, a’i agor i’r cyhoedd.
Dwi’n gaddo gneud rwbath ar Fedi’r 3ydd.
Dwi’n addo i wneud cofnod(ion) blog a twîtio yn Gymraeg fel y diawl!
Rwy’n gaddo gwneud rhywbeth bach ar y 3ydd o Fedi!
Dwi’n addo peidio defnyddio gair o saesneg ar Facebook a Twitter!
Dwi’n addo defnyddio mwy o Gymraeg ar y blog/Gweplyfr a Twitter.
rwyn addo defnyddio YGymraeg pob cyfle y gallaf, ac I beidio defnyddio saesneg ogwbl ar y 03/09/2010
1) Yn barod ar gyfer yfory, dw i wedi newid fy satnaf i roi gorchmynion yn y Gymraeg.
2) Dw i’n mynd i annog cyd-weithwyr i osod rhyngwyneb Cymraeg ar eu cyfrifiaduron ac ymrwymo i’w ddefnyddio am o leia wythnos gron (gan obeithio y byddan nhw’n ei gadw’n barhaol ar ôl darganfod pa mor hwylus yw e i’w ddefnyddio.)
Fory, wy’n mynd i drydar rhestr o ddiarhebion Cymraeg wy ‘di addasu, er mwyn gwneud nhw’n fwy cyfoes a dealladwy. Joiwch
Dwi am geisio siarad dim ond Cymraeg ar y wê ac am annog disgyblion a chydweithwyr i wneud yr un peth
Yfory mi fydda’ i’n cyhoeddi cerdd destunol ac amserol iawn.
Bydd ar Yr Annedd (Annedd y Cynganeddwyr) ac ar Facebook gobeithio!
x
Addawaf i greu flog. Nid blog gyda dim ond un post, ond un go iawn.
Rwyf yn defnyddio Outlook, MS Office, Firefox, Google/Gwgl, Facebook/Gweplyfr ac ati ar y PC a’r iPhone yn eu fersiynau Cymraeg ac yn annog pawb i’w profi o leiaf… Cyn diwedd y dydd byddaf yn postio llun arall gyda thestun Cymraeg ar fy safle Flickr (FfotoMarc) a/neu drydar eto ar Twitter (@drudwy) yn Gymraeg.
@meddwl
Mae Adran Athronyddol Urdd Graddedigion Prifysgol Cymru yn hapus i gefnogi #pethaubychain gyda’n cyfri twitter newydd
hwde. 1af i’r felin-heli. Felin-heddi yn hytrach!
Dim ond nawr dw i’n cael gwybod am ‘Pethau Bychain’ felly, nes i fi feddwl am rywbeth gwell dw i wedi rhoi fy mhroffeil ar ‘Gweplyfr’ yn y Gymraeg.
Newydd ddysgu Saeson rhonc ddoth i mewn i siop i ddweud ‘Bore Da’ a ‘Hwre mae’r haul allan’! – am ddysgu mymryn i bob Sais sy’n dod i siop heddiw!”!
(Er ‘mod i’n gwneud hyn yn ddyddiol fodd bynnag..) Dwi’n addo Trydar yn y Gymraeg, defnyddio’r Gymraeg yn unig ar Gweplyfr a.. wel, fyddai siwr o feddwl am rywbeth arall
Adolygiad llyfr efallai?
Helo ‘na,
Dw i wedi rhoi stori i’w lawrlwytho a gweithgarwch i’r plantos ar fy ngwe-fan.
Pob hwyl,
Owen
Dwi’n mynd i ddilyn esiampl Osian Rhys Jones a gosod cerdd (falle dwy) ar Annedd y Cynganeddwyr: http://www.cynghanedd.com/yrannedd/index.php
1. Addo parhau gyda chyfieithiadau phpMyAdmin a Coppermine. Dwi wedi gadael y pethau i lithro.
2. Ychwanegu 20 datganiad at gyfieithiad Facebook erbyn canol nos.
Wedi bod yn trydar am straeon digidol yn Gymraeg ar @digitalst heddiw. Llongyfarchiadau ar lwyddiant Pethau Bychain heddiw.
Wedi blogio cwpl o weithiau dros y pedwar awr ar hugain diwetha (record i mi o bosib!). Falch o gweld digon o sylw yn y wasg am Bethau Bychain..
Rwy’n addo postio un darn o e-farddoniaeth ar y we, ac wrth gwrs defnyddio Facebook yn Gymraeg!
Howdi,
Wy ‘di cychwyn blog am y rhandir dw i a’r mistar yn ei gadw yng Nghaerdydd: http://hadau.wordpress.com/2010/09/03/hello-world/
Hwyl!
Shwmae.
Dw i wedi ail-lawnsio fy mlog ‘Gray’s Monotony’ [http://graysmonotony.blogspot.com] a dw i’n addo sgwennu unrhyw cofnodion yng Gymraeg.
Hwyl am y tro!